Mae’r Waled Rithwir yn golygu mai bod rheolaeth lwyr ar y Taliad Uniongyrchol yn eich dwylo chi. Mae’n cynnig dewis eang i chi o sut i wario’ch arian, yn caniatáu i chi trefnu apwyntiadau a rheoli’r cymorth a gewch. Mae hefyd yn talu eich darparwyr yn awtomatig.
Hawdd ei defnyddio
Trwy ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur personol (a chefnogaeth ar ben arall y ffôn)
Mynediad 24 awr
Mynediad unrhyw bryd, a gweld y diweddariadau mewn amser go iawn
Symlach
Mae’n diddymu’r angen i fod â chyfrif banc traddodiadol i dderbyn eich taliad uniongyrchol
Diogel a sicr
Mae’n eich gwarchod rhag twyll a gwastraff
Chi sy’n ei rheoli
Mae’n sicrhau mai chi sydd wrth wraidd eich gofal a’ch cefnogaeth
Mae’n cyflawni gofynion y Cyngor
Mae’n golygu nad oes angen i chi gadw neu gyflwyno unrhyw dderbynebau neu gofnodion llaw
Mae digon o help ar gael. Mae’r cam nesaf yn dibynnu ar eich safle yn y siwrnai. Cliciwch ar y blwch sy’n disgrifio orau beth yw eich sefyllfa (neu sefyllfa’r unigolyn rydych yn ei helpu).
Dylech gysylltu â thîm Cymorth/Cymorth/Assist yng Nghyngor Sir Powys a byddant yn gallu eich helpu chi i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi a pha opsiynau sydd gennych, a gallai hyn yn y pen draw gynnwys Taliad Uniongyrchol a Waled Rithwir.
Dylech siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol, eich cyswllt yn PeoplePlus neu dîm Cefnogi’r Virtual Wallet.
Dylech gysylltu â thîm cefnogi’r Virtual Wallet – mae eu manylion cysylltu isod.
Dylech gysylltu â thîm cefnogi’r Virtual Wallet – mae eu manylion cysylltu isod.
Dylech gysylltu â Thîm Drws Agored y Gwasanaethau Plant, manylion cysylltu isod.
Cymorth/Assist, Cyngor Sir Powys
E-bost: assist@powys.gov.uk
Ffôn: 0345 602 7050
PeoplePlus
E-bost: ilspowys@peopleplus.co.uk
Ffôn: 0330 123 2815
Tîm Cefnogaeth - Virtual Wallet
E-bost: info@virtualwallet.co.uk
Ffôn: 03300 582 692
Tîm Plant, Cyngor Sir Powys
E-bost: people.direct@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827666